Croeso i'r Arolwg
Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn arolwg ar ddefnyddio profion cyflym i ganfod y pathogenau sy'n achosi niwmonia mewn lloi. Cyn penderfynu a hoffech chi gymryd rhan, mae’n bwysig deall pam rydyn ni’n cynnal yr ymchwil a’r hyn y byddwn ni’n gofyn ichi ei wneud. Darllenwch yr wybodaeth ganlynol yn ofalus - mae croeso ichi drafod gyda phobl eraill, hefyd.
Mae fersiwn Saesneg o'r arolwg hwn ar gael yma hefyd
Beth yw testun yr arolwg?
Mae'r arolwg yn cyfrannu at brosiect i gynllunio prawf cyflym newydd y gellir ei ddefnyddio i ganfod niwmonia mewn lloi. Bydd canlyniadau'r arolwg yn ein helpu i gynllunio a marchnata'r prawf. Ariennir yr ymchwil gan EPSRC. Yr Athro Mark Chambers ym Mhrifysgol Surrey sy'n arwain y prosiect sydd â phartneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Glasgow, Global Access Diagnostics Westpoint Farm Vets ac Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.
Pwy sy'n cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg?
Rydyn ni am glywed gan filfeddygon sy'n ymwneud â rheoli lloi am eu defnydd o brofion diagnostig gyda lloi, eu profiad o reoli niwmonia mewn lloi a pha fath o brofion cyflym yr hoffech chi eu cael.
Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?
Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau
Oes rhaid i fi gymryd rhan?
Byddwch chi’n cymryd rhan o’ch gwirfodd, a chi fydd yn penderfynu a ydych am wneud hynny. Gallwch dynnu'n ôl o'r arolwg ar unrhyw adeg.
A fydd fy ymateb yn ddienw?
Bydd. Bydd eich ymateb yn gwbl ddienw.
Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu?
Bydd eich ymatebion dienw yn cael eu cyfuno i'w dadansoddi. Bydd canfyddiadau o'r set data cyfunol yn llywio nodau'r prosiect sef datblygu prawf cyflym dibynadwy ar gyfer niwmonia mewn lloi.
Sut bydd fy nata yn cael ei storio, a phwy fydd yn cael mynediad ato?
Bydd set data wedi'i golygu o'r arolwg yn cael ei storio am o leiaf 10 mlynedd ar weinydd diogel. Bydd tîm bach yn cael mynediad at y set data anhysbys fydd wedi'i golygu at yr unig ddiben o ddadansoddi ac adrodd ar y data.
Diogelu Data
Mae'r arolwg yn gwbl ddienw. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn dewis ei ddarparu yn eich ymatebion yn cael ei storio ar wahân i ddata'r arolwg. Dim ond o fewn y tîm ymchwil y bydd data ymchwil dienw yn cael ei rannu. Prifysgol Caerdydd yw’r rheolydd data ac mae’n ymrwymo i barchu a diogelu eich data personol yn unol â’ch disgwyliadau a deddfwriaeth Diogelu Data. Ceir rhagor o wybodaeth am Ddiogelu Data yma.
Gyda phwy ddylwn i gysylltu ag unrhyw gwestiynau neu bryderon?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Gareth Enticott ym Mhrifysgol Caerdydd (enticottg@cardiff.ac.uk). Os oes gennych ymholiadau cyffredinol am y prosiect, cysylltwch â Mark Chambers ym Mhrifysgol Surrey (m.chambers@surrey.ac.uk).